eraill or Iddewon ddaethon at bilatys o ynys y bont yn erbyn Jessu yw gyhyddo . . . . hwnn eber hwynt a adnabyam ni ac awyddam i fod y [n] fab Siosseb Saer ai eni o fair ac yn doedyd i fod yn fab i ddûw ac yn frenin a hefyd i mae ef yn amherch y Sadwrn ni a hefyd i mae fe yn gillwng Kyfreithiau yn Rieni / pa. beth ebyr peilatws y mae yn i dillwng."
Wele ddigon i brofi a dangos fod anghenraid ar Ddafydd Jones newid llawer ar Gymraeg y cyfieithiad, ac iddo, er amled beiau ei lyfr, ei wella ac nid ei waethygu. Bu'r llyfryn trwy bedwar argraffiad, dau yn ystod oes ei gyhoeddydd cyntaf, a dau yn agos i'w gilydd wedi ei gladdu.[1]
6. Gwaedd Ynghymru yn wyneb pob cydwybod Euog. Yr ail Argraphiad, 1750. (Thomas Durston, Amwythig)." Ceir ynddo Lythyr at y Darllenydd, gan D. Jones (Dewi Fardd) o Drefriw. A "Llythur i'r Cymru cariadus" gan M. LI. Yng nghyd ag "Englynion perthynasol i'r Llyfr," gan Dewi Fardd, Thomas Llwyd, Huw Morus, Dafydd Lewis,. Iago ap Dewi, Bess Powys a Wiliam Phylip.
1. Gwrecsam 1745.
2. Amwythig 1750 (?).
3. Dolgellau 1799.
4. Caerfyrddin 1802.
- ↑ Mae copiau o'r tri blaenaf yn yr Amgueddfa Brydeinig yn dwyn Press Marks (1) 872. g. 20; (2) 872. g. 21.; 872. c. 30. (3).