Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid un, fel y rhoddir ar ddeall i ni gan Ashton, ond dau o lyfrau Morgan Llwyd a geir yma. Hefyd, mae "ail-argraffiad yn anghywir, y trydydd ddylasai fod.[1]

7. "Eglurun Rhyfedd. Sef, Ystyriaethau Godidog, Y Cyntaf, yn Cynnwys, Hanes yr Hen Wr o'r Coed. Yn Ail, Breuddwyd Troilus. Yn Drydydd, Troedigaeth Evagrius y Philosophydd. Yn Bedwerydd, Methyrdod Andronicus Ymmerawdr. Yn Bumed, Cywydd y Merthyron.

Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef: O blegid rhaid yw i'r neb sydd yn dyfod at Dduw gredu ei fod ef a'i fod yn obrwywr i'r rhai sy yn ei geisio ef, Heb. 11. 6.

A osodwyd allan gan Dafydd Jones. Argraphwyd yn y Mwythig tros Dafydd Jones, 1750."

Wele wyneb-ddalen ddoniol yr Eglurun Rhyfedd; fel mae ei enw felly mae yntau. Yn gyntaf oll, mae ynddo ddalen o ragymadrodd gan Ddafydd Jones, wedi ei dyddio, Trefriw, 14 Mai, 1750. Nid oes fawr gamp ar iaith y rhagymadrodd, ei sillebiaeth yn ddrwg, ei arfer o'r prif—lythyrennau yn waeth. Ym—

  1. 1653 Llundain neu Dublin.,
    1727 Caerfyrddin.
    1750 Y Mwythig.