Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/113

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddengys na welodd yn dda yma ddefnyddionyddio diwedd-nodau ond pan yn newid y pwnc. Ac mae ei atalnodau eraill fel pe heuasai dyn hwynt gan eu gadael lle'r syrthiasant ar ddamwain. Er diddanwch i'r darllennydd, wele rhan o'r rhagymadrodd,—

"Ni fedraf lai na'ch Annerch a llyfr bychan etto. Ni cheir lles o ddiogi Ebr Aneurin Gwawdrudd, wrth Cybi Sant, a St. Paul hefyd a Orchymyn, os bydd (ebr ef) neb na fynnai weithio na chai fwytta 'chwaith, 2 Thes. 3. 10. Ymmhlith yr Atheniaid, f'a fernid ac a gospid Dynion Segur megis y Troseddwyr dihiraf A chan fod gan i rai o 'Sgrifeniadau fy Iaith heb fod erioed mewn print, nid wyf yn gweled lles yn y Byd o'u cadw dan lestr, gyd a Gwladys nid wy'n 'wyllysgar i fod yn esmwyth fy hun oni chai fy nghyd wladwyr, y Brutaniaid mwynion wybyddiaeth o'r cyfryw a chan fy mod yn agos i Dy fy hir gartref; ac nad oes yno waith, dychymig, gwybodaeth, na doethineb."

Mae'r llenor yn ymddangos yn hollol ddifrifol, heb amcanu cellwair o leiaf yn yr uchod. Mae'r beirdd, o ba faint bynnag y bont, ar adegau yn ddifrifol a di-niweid, a gall fod haen go gref o ddi-niweidrwydd yn ei natur yntau, nid weithiau, ond bob amser. Rhaid fod y