Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/114

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diniweidrwydd hwn o dan faich trwm o'r pruddglwyf pan sonia mor glir am "Dŷ ei hir gartref." Pa ofid a barodd i'w gyfeillion? Nid oedd achos, canys bu fyw 35 mlynedd ar ol hyn. Chwedlau crefyddol yw cynnwys y llyfr. "Hanes yr Hen Wr o'r Coed,"—hen stori wedi ei throi'n gân, neu'n ddwy gân, yw hon; am hen wr fu mewn coedwig am 350 mlynedd yn gwrando cân un o'r angylion. Cyhoeddwyd yr ystori ar y dechreu yn y "Drych Cristionogol," 1585, am yr hwn lyfr yr ymhola'r cyhoeddwr yn y geiriau hyn,—

"N.B. Fe fyddai da genyf gael y Drych Gristionogawl, &c., yn gyflawn; i werth neu i Fenthyg. Yr hwn wyf fi Dafydd Jones."

William Pirs Dafydd o Gynwyd (yn ei flodau oddeutu 1660), oedd awdwr y gyntaf o'r ddwy gerdd. Nid oes enw wrth yr ail. Mae 2, 3, a 4, wedi eu cymeryd o Ystyriaethau Drexelius am dragwyddoldeb" (1661). Yr olaf sydd Gywydd Merthyron, a chywydd gymharol dda. Ar ei diwedd ceir a ganlyn,—"John Morgan, M.A., medd Moses Williams, B.C., a'i gwnaeth 1716."