Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/115

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VIII. LLYFRAU DAFYDD JONES.

(Parhad).

8. "Blodeugerdd Cymru, Sef Casgliad o Ganiadau Cymreig gan amryw Awdwyr o'r oes ddiweddaf. Yr hwn a gynnwys draethiadau Duwiol a Diddanol; y rhai na fuont yn gyhoeddedig mewn Argraph o'r blaen. O gynnulliad David Jones o Drefriw. Argraphwyd yn y Mwythig, ac ar werth yno gan Stafford Prys, Gwerthwr Llyfrau.

"Bydded hysbys i'r Cymru, fod Llyfr Dewisol Ganiadau yr oes hon, yn awr yn yr Argraphwasg, ac a fydd yn barod ynghylch Gwyl Mihangel, 1759. Pris 3s."

Fy unig awdurdod dros gywirdeb y wyneb-ddalen uchod yw "Llyfryddiaeth y Cymry" Gwilym Lleyn a "Hanes Llenyddiaeth Gymreig " Ashton. Am Wilym Lleyn, mae agos hanner y wyneb-ddalennau gopiodd yn anghywir. Ni welodd Ashton gopi ag wyneb-ddalen iddo. Felly finnau. Er fod o'm blaen ddau gopi 1759, mae wyneb-ddalen y ddau yng ngholl. Mae Ashton fel mewn peth amheuaeth a gyhoeddwyd "Blodeugerdd Cymru" yn 1759; felly mai argraffiad 1779 oedd ei hargraffiad cyntaf; fel na themtier neb i