Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/116

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gredu fel efe, rhoddwn a ystyriwn yn brawfion dros gredu iddi gael ei chyhoeddi yn 1759, neu yn gynnar yn 1760.

1. Mae'r hysbysiad am y "Dewisol Ganiadau yn profi ddod o'r Flodeugerdd allan o'r wasg yn flaenorol iddynt hwy. A dyddiad y Dewisol Ganiadau yw 1759.

2. Mae'r Llythyr at y Cymry" ar ddechreu'r Flodeugerdd wedi ei leoli a'i ddyddio, Tan yr Yw, Mai 15, 1759."

3. Ysgrifennodd Lewis Morris ei feirniadaeth giaidd yn Tach. 8, 1759, gan alw'r llyfr yn un O erthyliaid bastardaidd Dafydd Jones. Q 4. Cyfeiriodd Ieuan Brydydd Hir, mewn amryw lythyrau, rhwng Rhag. 3, 1760, a Ion. 14, 1761, at un o lyfrau Dafydd Jones; llyfr yn ddiweddar oedd wedi dod allan o'r wasg, a llyfr oedd wedi trethu adnoddau ariannol y cyhoeddwr yn ddirfawr.

5. Mae rhestr o'r tanysgrifwyr ar ddiwedd argraffiad 1759, ond nid oes dim o'r cyfryw yn argraffiad 1779. Hefyd "Blodeugerdd Cymru y gelwir y cyntaf, tra "Blodeu-Gerdd Cymry' ei teitlir yn yr ail.

Mae'r uchod yn ddigon ar bwynt y mae lleied lle i amheuaeth yn ei gylch; a nodwn hwynt rhag cymeryd o un oes amheuon oes arall fel ffeithiau hanes.

Prin y mae sen Lewis Morris yn feirniadaeth deg ar y "Flodeugerdd,"