Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/117

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sef ei bod yn un o "erthyliaid basdardaidd Dafydd Jones." Pe am lyfrau blaenorol Dewi Fardd yr ysgrifenasai, gallasai guddio ei hun â chawnen o reswm dros eu galw yn "erthyliaid " neu fastardiaid, neu'r ddau ynghyd, os da hynny yn ei olwg. Ond doethach fuasai peidio. Oblegid codi cynnwys y rhai hynny a wnaeth Dafydd Jones o lyfrau a ystyrrid yn safonol, gan i raddau ddilyn esiampl Lewis Morris ei hun yn "Nhlysau'r Hen Oesoedd." A mwy na'r oll, treuliodd ei feirniad ran o'i oes lafurus i ysgrifennu eu tebyg, yn unig na threuliodd ei arian ac na cholledodd ei hunan trwy gyhoeddi llyfrau. Gan fod Lewis Morris yn adnabod y casglydd a'i fedr, gallasai roddi iddo'r ganmoliaeth o fod y casgliad ddaed a'r disgwyliad.

Mae rhagymadrodd y casglydd i'r "Blodeugerdd" yn tra rhagori ar bob "Llythyr at y Darllenydd" a ysgrifennodd yn ei holl fywyd. Rhydd i'r awdwr safle, a llefara'n uchel am ei fedr a'i wybodaeth. Codir yma gwrr y llen ar ei lafur dirfawr yn casglu llenyddiaeth ysgrifenedig wael a gwych ei genedl, llawer o'r cyfryw lafur erbyn heddyw sydd wedi mynd yn ofer. Ceir yma rannau da o ran