Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaith a meddwl—ei feddyliau lawer gloewach, a'i iaith yn goethach. Ond mae rhai o'r hen bechodau'n dilyn. Rhaid na wyddai ddiben diweddnod, neu ei fod yn un o'i gasbethau. Math o esgus dros ei waith, ac apel at ei "Anwylgu Gyd-Wladwyr" yw'r rhagymadrodd. Hawdd maddeu ei ostyngeiddrwydd yn ei esgusawd, a gonest yw sel yr apel. Meddai gyflawnder o ddefnyddiau. Yr oedd

"Wedi tramwy gan gasglu llawer o Gerddi, rhai o Dduwiol ddawn, eraill o ddiddanwch, a rhai, fel y geilw M. Kyffin o Lundain hwy, Legenda Aurea. Y rhai a allir eu galw yn gwbl wagedd; a hefyd ni ddeuant byth ar gyhoedd drwo fi; nid wyf am eu mawrhau, o achos eu dyfod o'r ail Awen."

'Ewyllysio i'r wyfi adferu rhyw ddiddanwch i'm bro, cyn fy myned i lwch ango. Canys pan ddel ychydig flynyddoedd yna mi rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf."

Wele nodyn tant yr ymadel â'r fuchedd hon unwaith eto, er byw ohono naw mlynedd er pan ganodd ei farwnad ei hun o'r blaen, a thra nad gweddus i arall ei chanu am bedair blynedd ar hugain eto. Cwyna i raddau yn erbyn rhagluniaeth a dynion, a pha ryfedd iddo gwyno yn ei erbyn ei hun?