Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/119

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ond myfi trwy ryn ag anwyd, gwatwar, a dirmyg, distyrrwch a choegni, a anturiais roi ail fywyd i'r Dirifau a gewch yn y Blodeugerdd.'

Er ei holl drallodion, ni wyddai ef am rai o ofidiau'r oes hon. Mae'r wasg at ein galwad ni, fel prif-ffordd wedi ei digaregu, ond y defnyddiau'n brin. Mae llawer uchelgeisiol yng ngwlad bell y newyn. Yr oedd ef yng nghanol llawnder, a chanddo yng ngweddill fwy nac a roddodd yn y llyfr,—

"O rai erioed heb fod mewn print, Sef gymmaint o rai Duwiol a chymmaint o rai diddan ; mai a roddais y Llyfr yma yn gymysg; ond os byw fyddai mi a rôf gynnyg ar gael un o'r Ddau, ys ef y Duwiol, yn gyntaf. . . Y mae gennyf Ewyllys i roi y ddwy ran mewn Argraph. Yr ail ran a alwaf Blodeu-Gerdd Duwiol, a'r drydedd Blodeu-Gerdd Diddanol. Hefyd y mae gennyf fwy na Mil o Gywyddau, heblaw Awdlau ac Englynion, o's daw Llyfr ar y Mesurau hynny drwof, yr wyf ar fedr ei alw ar henw arall."

"Mwy na mil o Gywyddau" wedi eu casglu, wele ddigon i daro unrhyw un â syndod. Ond nid oes le i ameu'r gosodiad. Mae llawer o ysgrif-lyfrau a fu ganddo ar gael. Ofnaf fod y doraeth a "ddaeth o'r