Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/120

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ail Awen," chwedl yntau, wedi eu colli. A ymlaen i gwyno'n dost oherwydd hwyrfrydigrwydd ei "Anwylgu Gyd-Wladwyr" i brynnu llyfrau, nid o achos eu bod yn dlodion, ond oherwydd gwastraffu eu harian am yr hyn nad ystyriai ef oedd fara na llyfrau.

"Ond gresyn fod Haidd, Gwinwydd, Llewig y Blaidd, Ffwgws, Ystrew, Berw'r Merched,. Crasddodrwydd, a Gwlyb dros ddyfroedd, yn amharu'r hwyl, ac yn dwyn Arian yr hen Frutaniaid."

Ar waelod y ddalen, mae'n egluro'r enwau ymfflamychol uchod fel hyn, Haidd = cwrw, Gwinwydd=gwin, Llewyg y Blaidd =hops, Ystrew=sneezing, Berw'r Merched,=tea, Crasddodrwydd = coffee.

Mae peth aneglurder yn y nodiad canlynol, sef iddo ysgrifennu Llyfr Cywyddau, &c.[1] Pan fedr yr hanesydd roddi ei law ar ei holl ysgriflyfrau, gall y profant. hwy wiredd ei osodiad. Amlwg yw iddo lafurio'n ddiflin i gasglu, adysgrifennu, a threfnu; haedda glod am hynny, a llafuriodd yng nghanol anfanteision a chaledi bywyd.

  1. Wedi ysgrifennu hyn, gwelais ei Lyfr Cywyddau, Caerdydd MS. 84. Gwel yn nes ymlaen yn y bennod ar ei MSS.