Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/121

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mi a fum dros amryw flynyddoedd yn Scrifenu Llyfr y Blodeugerdd, Llyfr Cywyddau, Awdlau, ac Englynion, Historiau ac Actau."

"Bendigedig yw Duw, ef a roes imi droseddwr, a Dynyn diccra, yn fynych: genad i orphen y Blodeugerdd, ac i'w weled mewn Argraph, ac i'w gyfranu i'm cyd wladwyr Cynorthwyol."

Teimlai'n ddiolchgar am fedru gorffen y gwaith er lles ei wlad, er ei anrhydedd ei hun, ac oherwydd ei danysgrifwyr, y rhai a arddelai fel ei " gydwladwyr cynorthwyol."

Cyhudda Lewis Morris ef o dorr amod ynglŷn â'r "Blodeugerdd," sef peidio cyhoeddi holl weithiau Huw Morus. Cam-gyhuddiad eto. Ni addawodd ddim o'r cyfryw wrth y tanysgrifwyr yn ei anerchiad "At Ewyllyswyr da i'r Brydyddiaeth," pan yn casglu enwau at ei "Lyfr," ond yn unig y cynhwysai lawer iawn o ganiadau duwiol a diddanol o waith Edward Morris, Huw Morris, ac Owen Gruffydd."[1] Ar wahan i bob addewid, yr oedd hyn yn amhosibl. Rhaid fuasai i'r "Blodeugerdd" fod lawer mwy ei mhaint i gynnwys ond eiddo Huw Morus ei hunan. A chyda phob parch i farn Lewis

  1. MS. yn fy meddiant.