Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/122

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Morris y beirniad, a Dewi Fardd y casglydd, dylasai'r cyntaf wybod nad Dewi Fardd oedd y gŵr feddai'r farn na'r moddion i ddwyn allan "holl weithiau Huw Morus." Yr ydym yn ysgrifennu hyn er yn cofio mai Hugh Jones Llangwm, bardd o radd debyg i Dafydd Jones, a gyhoeddodd gyntaf ran o weithiau Goronwy Owen a Lewis Morris ei hunan. A phrin yr oedd yn anrhydeddus ar ran boneddwr o safle Lewis Morris farchogaeth i gyhoeddusrwydd ar asynod a gurai mor ddiarbed. Am Oronwy Owen yn ei dywydd blin, ni wyddai ef helynt ei weithiau dihafal. A anghofiodd Lewis Morris ddiwrnod angladd "Tlysau'r Hen Oesoedd," yr hwn gyntafanedig a fu farw o wir angen cefnogaeth, er galar a cholled i'w berchennog? Bu am flynyddoedd yn darparu ei "Celtic. Remains"; er yr holl oglais am glod oedd yn ei natur, nis cyhoeddodd ef, canys da y gwyddai y buasai iddo'n golled ariannol. Yna anheg oedd disgwyl i wr o amgylchiadau cyffredin, gyda phump neu chwech o blant, heb ond cadw tipyn o ysgol er eu dilladu a rhoddi iddynt damaid o fara, fyned o dan y fath gyfrifoldeb.

Amcanodd Dafydd Jones ddwyn allan gasgliad poblogaidd o farddoniaeth rydd—