Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/123

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ffurf casgliad o delynegion. Cynwysai 45 o ganeuon Huw Morus, a llawer o weithiau beirdd da eraill. Cofiodd hefyd, beth bynnag oedd ei farn ef ei hun, am gerddi diddanol, sef rhigymau at chwaeth y lliaws. Gwir nad difai'r gwaith. Eto. rhaid ystyried "Blodeugerdd Cymru" yn gasgliad teg o farddoniaeth yr amseroedd hynny, a'r cynnyg cyntaf o'r natur hwn.

Yn nesaf rhoddwn restr o feirdd y "Blodeugerdd," wedi ei chodi yn bennaf o argraffiad 1779. Y rhain heb os yw'r beirdd bach a gyfenwid yn bennabyliaid," a'r 'ysmotiau duon" i ddangos. gogoniant eu rhagorach. Ynglŷn âg amryw o'r enwau mae dyddiadau, yr hyn olyga amlaf amser cyfansoddiad y Caneuon. Cymerwn ein rhyddid i wneyd sylwadau ar rai o'r caneuon wrth fyned ymlaen. Rhannwn wy i bum dosbarth.

I. AWDURON UN GAN.

"Aaron Jones, 1707; Abram Evan; Cadwaladr ap Robert, o Erw Dinmael; Dafydd Manuel, o'r Birdir, Trefeglwys; Dafydd Thomas; Dafydd Lewis (Parch.), Ficer Llangatawg ym Morganwg,"—mae hon yn gân faith, yn 37 o benhillion