Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/124

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hollol ddifarddoniaeth a neillduol ofergoelus. Mae'n ddarlun digel o ofergoeledd yr oes honno. Hyn yw ei gwerth. Ac mae mor ofergoelus nes peri inni ameu crefydd, os nad synwyr y gŵr eglwysig a'i canodd. Pe'n chwedl o oesau bore'r byd, gallasem ei chymeryd fel math o fabinogi. Felly y mae i raddau, ond fod cymundeb â'r byd ysbrydol wedi cymeryd lle hud a lledrith, ac ysbryd yn chware rhan y ffon hud. Chwedl am ymddanghosiad ysbryd ydyw, sef hanes ymddanghosiad gwraig rhyw wr a drigai yn "Llan-Fihangel Rhos y Corn Sir Gaer-Fyrddin." Gan gofio, canu hanes mae'r bardd, ac nid adrodd chwedl. Er rhoddi gwedd glasurol ar y gân, mae ei hawdwr neu'r casglydd wedi egluro rhai rhannau ohoni, ac yn ddoeth wedi chwilio allan gyfeiriadau ysgrythyrol er ceisio crogi'r coelion arnynt, i dwyllo'r diniwed i gredu'r ynfydrwydd. Awn ymlaen gyda'r enwau.

"Evan Llwyd, o Wyddelwern; Evan William, o'r Gwylan; Ellis Rowland, o Harlech; ac Ellis Jones, o Dolgyn." Rhaid ymdroi ychydig gyda chân Ellis Jones, nid chwaith oherwydd ei barddoniaeth, ond o achos ei diwyg lenyddol. Ei phenawd yw "Hiraeth Gwyn Cariad i'w