Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/125

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chanu ar fesur a elwir Morfa Rhuddlan." Nid oes ynddi fawr o swyn barddonol ar wahan i'w harddull, ond nis gall ei har—ddull lai na bod yn ddyddorol, am o bosibl mai'r ganig fechan hon a awgrymodd i Ieuan Glan Geirionnydd ei gân anfarwol ef. Er, hefyd, mae ddaed a rhelyw can—euon serch yr amseroedd hynny, pan oedd blodau, gwlith, ac awelon lawer llai pwysig fel cyfryngau caru nac ydynt yn ein dyddiau ni. Wele engraifft o gân serch Ellis Jones,—

"Gwrando gŵyn, Fenws fwyn, dyn sy'n dwyn dolur,
Wedi ymroi, oni ddoi, ar gais i roi cyssur,
Cyn i bur, arw gur, saethau dur dorri,
Dan fron ddi—nwy, friwiau mwy, attal hwy atti:
O serch i'th bryd, drych y byd, daliodd hudoliaeth
O'm blaen fel mân, wreichion tân, anwyl lan eneth
Nes myn'd yn swm, fel bowl o blwm, ddyga drwm ddigon
Briwo a wnaeth, y ganaid firaeth, giliau gaeth galon;
Er dim a fo harddwch bro, tynn fi o'm gofalon
Gad fi'n fyw, Seren wiw, hynod liw hinion."

"Evan Gruffudd; Gruffudd Phylip; Huw Huws o Fon; Humffrey William, o