Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/126

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dywyn Meirionydd; Harri ap Evan o Loddaith; H. C.; Dr. John Gwent, neu'r Dr. Powel; John Llwyd o Gwm Pen-Anner; John William o Drawsfynydd; John Rhydderch; Lewis Owen o Dyddun y Garreg; Mr. Morys Llwyd o Ddyffryn Ardudwy; Margared Rowland o Lanrwst, Margared, merch Rowland Fychan o Gaergain, a gladdwyd yn Llanrwst, Hydref, 1712, oed 89; y Parchedig Mr. Peter Lewis o Gerrig y Druidion." Geilw ef ei gân yn "Cathl y Gair Mwys." Un ar ddeg o benhillion doniol, ystwyth eu hiaith, yw'r "gathl" hon. Oherwydd hyn, ac oherwydd y defnydd "mwys" chwareus a wna'r awdwr o'i enw ei hun, gwnaeth hon ffordd iddi ei hun i'n llenyddiaeth ddiweddar. Fel ei hadwaenir gan ein darllenwyr, rhoddwn ddau neu dri o'r penhillion,—

"Hi aeth fy anwylyd yn Galan-gaua,
Ti wyddost wrth y rhew a'r eira;
Dywed imi yn ddi-gyfrinach,
Pam na wisgi Lewis bellach?
***
Rhai ront Lewis wrth eu breichiau,
Rhai ront Lewis wrth eu cefnau;
Cymmer ffasiwn newydd Gwenfron,
Dyro Lewis wrth dy ddwy fron.