Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/127

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gwelais ganwaith lewis gwnion
Gan gyffredin a boneddigion;
Am dy weled mi a rown fawrbris
Yn dda dy le, yn ddu dy Lewis.
***
"Oer yw'r ty heb dân y gaua,
Oer yw'r cenllysg, oer yw'r eira;
Oer yw'r hin pan fo hi'n rhewi,
Oer yw merch heb lewis ganddi."

Clod i goffadwriaeth y Parch. Peter Lewis am ei delyneg firain a doniol. Nid chwareu ar y gair mwys yw prif elfen ei chymeriad, ond ei nwyfder telynegol. Yr oedd hyn yn newydd ac amheuthyn mewn oes yr oedd pob bardd yn ystyried mai ei ddyledswydd oedd bod yn fath o gysgod o Huw Morus. Mae'r un gair o glod yn ddyledus i Gruffydd Phylip, awdwr y "Coler Du." Yr oedd y naill a'r llall megis rhagredegwyr Morwynion Glan Meirionnydd.'

"Rowland Fychan o Gaergai, neu Gynyr, Esq.; Rhys ap Robert, o Nant y Murddyn 1682; Robert Humffrey o Fon; Richard Thomas, o Ben Machno; Robert Mile; Robert Humffreys alias Ragad; Robert Evans; Richard Llwyd, o'r Plas Meini yn Ffestiniog; Rhys Thomas, Yswain o Gaernarfon; Robert Pritchard, o