Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/128

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bentraeth ym Mon, 1738; Rowland Huws o Rienyn yn agos i'r Bala." "Marwnad Rhys Morys, oedd 88 oed; a gladdwyd yn Llan y Cil, yn y flwyddyn 1757" yw'r gerdd hon. Rhoddwn ddau bennill er dangos nodwedd dyner-chwareus y gân a chymeriad diniwed" Rhysyn Morys." Er nad oes lawer gamp ar y gân, dengys fod llawer o frawdgarwch diddan a dirodres yn yr amseroedd hynny.

"O ddrws i ddrws yr oedd o'n rhodio,
A'i god a'i gyfoeth gyd ag efo;
Fel aderyn heb lafurio,
Fel Elias heb arlwyo;
Heb eisiau dim, a phwy mor happus
Yn sir Meirion a Rhysyn Morys?

"Gwan erioed, a'i droed heb drydar,
Yn saith oed cyn troedio daiar;
Gwan o gorph a gwan o foddion,
Gwan o help a chymorth dynion,
Er hyn ni 'dawodd Duw daionus
Mo'r eisiau mawr ar Rysyn Morys."

"Thomas Davies; Thomas Evans; Thomas Buttry; Mr. William Llwyd, Eglwyswr, Llanuwchlyn; Mr. William Matthew; Wiliam Pyrs Dafydd o Gynwyd; Wiliam Roberts Lannor yn Lleyn; a William Roberts, o Gapel Garmon."