Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/130

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V. AWDURON AMRYW GANEUON.

"Morys ap Robert o'r Bala, 7: Dewi Fardd o Drefriw, 9: Edward Morys, 11: Owen Gruffydd, o Lanystumdwy, 16: a Huw Morys, 49."

Mae'r enwau uchod fel y maent yn y Flodeugerdd, a thebyg eu bod yno fel eu cawd o dan y gwahanol gerddi, felly nid Dafydd Jones sydd i'w feio am anghysondeb yr orgraff. A gwyr y cyfarwydd nad oedd beirdd yr amser hwn yn nodedig o ofalus am sillebu eu henwau bob amser yr un modd.

Heb betruso yr ydym yn gosod fod y "Flodeugerdd" yn gasgliad teg o fardd—oniaeth rydd ein cenedl hyd adeg ei hymddanghosiad. Nid casgliad o farddoniaeth oreu a olygwn; ond yr ail oreu neu'r "ail Awen" fel y geilw'r casglydd hi, a pheth o'r drydedd. Arbeder ni o achos ohonom ddosbarthu cymaint ar i lawr. Oblegyd ei bod yn gasgliad o holl faes cynnyrch yr awen, nid y brasaf yn unig, y mae o fwyaf dyddordeb i'r hanesydd. Ac mae'n amgenach tyst hanes na phe'n cynnwys dim ond gweithiau Huw Morus, oherwydd ei bod yn engraifft o'n barddon-