Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/131

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaeth rydd yn ei ffurf gyntaf—hyd y Diwygiad Methodistaidd.

Rhoddodd y Diwygiad dant newydd ar ein telyn farddol, ac ysbrydolodd yr hen dannau. Yn lle'r carolau bydol eu hysbryd, anghyfartal a hir eu hesgeiriau, a chlogyrnog weithiau, cawd emynnau newydd eu hysbryd a llyfn eu melodion. Mae Williams eto heb ei holl barch fel bardd Cymreig. Rhoddir iddo'n rhwydd safle brenin ein hemynwyr, ond paham na roddir iddo'r anrhydedd o fod yn ddiwygiwr ein barddoniaeth rydd? Ceir yn ei farddoniaeth y newydd mewn crefydd, moes, a barddoniaeth. Yn lle pendroni uwch ben ffeithiau hanes bywyd a phregethu'n foesol ar gân yn ddigon rhyddieithol weithiau mewn mesurau cellweirus, yng ngrym ei ysbryd cyfriniol aeth i fewn i sancteiddiolaf ysbryd dyn, ac o ysbryd anghenus dyn i'r ysbrydol yn Nuw a thragwyddoldeb. Williams rwygodd y llen rhwng barddoniaeth Cymru a thragwyddoldeb, gan ddangos y ffordd i deimladau ysbrydol i gymdogaeth Duw. Bu'n beirdd hyd hynny yn ffyddlon ddigon i'r hen arwyddair hanner anffyddol, Llygad i weled anian, calon i deimlo anian. Bellach, ond heb an-