Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/133

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diosgodd Williams bethau sal yr ysbryd cyfriniol, ei ffigyrau, weithiau a arweiniant i ddeongliad rhy lythrennol. Defnyddiodd ei grym, a gwisgodd y peth byw," nid â ffigyrau ond à barddoniaeth dlos. Nid casgliadau synwyr cyffredin cryf, fel yn yr hen garolau a rhai o benillion " Canwyll y Cymry," yw gwersi moesol barddoniaeth Williams, ond gwyrddlesni a blodau aroglus bywyd ysbrydolyr ysbrydol hwnnw sydd a'i ffynhonnell yn Nuw. Mae barddoniaeth Williams, ar wahan i'w hamcanion a'i hysbryd crefyddol, yn rhagorach na dim geir ym marddoniaeth rydd y genedl yn flaenorol i'r amser. Yn lle canu'n bert am bethau materol, canodd ef yn dlws am bethau dwyfol. Yr oedd natur mor ddwyfol yn ei olwg, hyd oni welai'r tragwyddol yng ngloewder ei dwyfoldeb. Creodd Williams gyfnod newydd ym marddoniaeth gysegredig y genedl, a gweddnewidiodd ffurfiau ein holl farddoniaeth rydd. Rhoddodd heibio'r hen fesurau carolau, a mesurau'r baledi Seisonig oedd mor gyffredin, cerddoriaeth y ffair a'r dafarn. A chanodd ar fesurau llawer mwy cydnaws â natur ddefosiynol addoliad, a llawer haws i oes anysgedig eu cofio