Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/134

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'u harfer. Aeth mesurau Huw Morus, y mesur tri thrawiad," a'r caneuon cynghaneddol,, allan o arfer; a daeth mesurau emynnau Williams a'u tebyg i arfer yn eu lle. Yn fuan collwyd o'r tir yr hen ganeuon, y rhai nad oeddent amgenach lawer ohonynt na beirniadaeth neu gynghorion wedi eu hodli. Maddeued y darllennydd am dreulio cymaint o amser gyda'r Flodeugerdd. Gwnaethom hyn oherwydd ei bod brif orchest lenyddol Dafydd Jones, a'i bod ddanghosiad lled deg o ansawdd barddoniaeth rydd Cymru o amser Huw Morus hyd hanner y 18fed ganrif. A thrwy hyn fod ei nheges lenyddol bwysicach na'i gwerth barddonol.