Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/135

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IX. LLYFRAU DAFYDD JONES.

(Parhad).

9. "LLAIS Y DURTUR, sef gwahoddiad grasol ar Bechaduriaid . . . gan y Parchedig Mr. D. Rowlands, Gweinidog yr Efengyl yn Llangeitho. Argraphwyd yn Llundain gan W. Roberts, ac ar werth Ynghymru gan D. Jones o Drefryw; a W. Thomas dan lun y Fuwch Goch, Cowlane yn agos i Smithfield 1764."

12 plyg 15 t.d. Ail Argraphiad yw'r uchod.

YMDDANGHOSODD y cyntaf yn 1762 o swyddfa R. Thomas, a thros T. Davies. Amheuaf ai priodol rhestru'r uchod ym mhlith llyfrau D. Jones, oherwydd anhawdd penderfynu a oedd ganddo fwy rhan na bod yn oruchwyliwr gwerthiant y llyfr yng Nghymru. Pa fodd bynnag, mae hyn yn unig yn rhoddi prif os nad holl gyfrifoldeb y gwerthu ar ei ysgwyddau ef, pa beth bynnag arall a gynhwysai. Paham na chyhoeddodd lawer o lyfrau o fath yr uchod sydd anhawdd ei esbonio; yn unig mai un o lyfrau'r Diwygiad oedd, a