Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/136

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pha faint bynnag o dueddiadau crefyddol oedd yn ei galon, nid oedd ynddi ddafn o gydymdeimlad a'r deffroad crefyddol.

10. "DIFERION GWYBODAETH, &c. &c. A draddodwyd gan Dafydd Jones, o Drefrhyw, C.C.C.

Argraphwyd yn Llundain gan William Roberts ac a werthir Ynghymru gan Dafydd Jones o Drefrhyw." "20 t.d. 12 plyg."

'Diwedd y rhagymadrodd a ddywed fel hyn, Annerch wael, oddiwrth dy Garwr. Llundain, Mawrth 31, 1764. Ac yn niwedd y llyfr y mae Diwedd y Rhan gyntaf'; eithr ni welais yr un arall." Mae'r uchod o Lyfryddiaeth y Cymru (t.d. 475). Ni welais y llyfr na chofnodiad arall am dano.

11. "CYDYMAITH DIDDAN. Yn ddwy Rann. Y Rhan gyntaf sydd yn Cynnwys crynhodeb Araithyddiaeth yr Hen Frutaniaid yn mysg Brythonaeg iw gilydd. Yr Ail Rhann. Yn adrodd mewn Euraid Odlau, di-rif, Afiethus ddifyrrwch Brodorion Cymry.

Quae audisti vide, omnia, vos autem num annuntiastis? Audita feci tibi nova extunc & conservata sunt quae nescitis. Esay 48. 6.

Odiaith a pherffaith ydi, Iaith Gamber,
Waith Gwin-ber oll drwyddi;
A gwreiddin goreu iddi
Yw Beirdd hen yn i bwrdd Hi.