Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/137

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Areithiau geiriau ethol, safadwy
Sef odiaith gynhwynol;
Adawyd i'n iw deol,
Frydain Iaith hyfryd yn ol.

—Dewi Fardd.

Digon o Grwth a Thelyn,
Medd hên Gyrys o Iâl. 1216.


Gan DAFYDD JONES, o Drefriw, C.C.

Caer Lleon,

Argraphwyd gan ELIZABETH ADAMS, tros
DAFYDD JONES

ac a werthir ganddo ef.

(Pris Swllt yn Rhydd, Pymtheg yn Rhwym)."

Tybiais yn briodol roddi'r wyneb-ddalen yn gyflawn, er ei meithder a'i gwallau, gan mor anghywir y gwnaeth Wilym Lleyn hyn o waith.

Bu'r "Cydymaith Diddan" hwn, fel "Flodeugerdd," yn hir yn yr esgorfa. Canys dywed ei gasglydd mai—"hir faith i bu'r Cymro yma'n gorwedd yn fud. Colled o ugain punt gyda'r Flodeugerdd, a dirfawr glefyd, onid aethym yn ddi-obaith am ei osod allan, hyd oni fynegais fy meddwl i bendefig mwynlan," fu'r achos. Mae gair at y darllennydd yn nechreu hwn fel yn ei holl lyfrau eraill. Er fod ei anerchiad yn wallus ei iaith,