Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/138

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae'n nodedig ddyddorol; dengys fod ei amgylchiadau'n donnog, a'i feddwl yn drallodus. Hefyd ymferwa ei deimladau Cymreig mewn gwrthryfel yn erbyn ysbryd Saesonig yr Eglwys Wladol. Ei ddarllenwyr oeddynt,—

"Nid i neb o'r Dysgedig na'r Cynhenus y darfu i mi ddarlunio hyn o ddiddanwch; Ond i'r Bobl Wladaidd ddiniweid; ac i'r rhai Ifainc er mwyn eu denu i ddarllain oran digrifwch yr ymadrodd. Paham yntau y bydd rhaid i neb arall drwyn "Suro wrth?"

Adfesur ei feirniaid, beirniaid y Flodeugerdd" yr oedd pan yn son am bobl yn trwyn Suro." A chwareu teg iddo, yr oedd y "Flodeugerdd" a'r Cydymaith yn lled agos i, os nad gwell na'r hyn y proffesai iddynt fod. Dadlea hawliau'r Gymraeg yn wresog oherwydd ei chamdrin mewn llys ac eglwys, gan gyfeillion, gelynion, cyfreithwyr, esgobion, a phersoniaid, heb ond ambell fardd yn rhoddi iddi air da..

"Yr achos a wnaeth i mi fod neu fynd i Philosophi i hwn, oedd weled fod y Brython yn Adlaw; oblegid ni fedd ef na Bil, na Band na Llythyr Cymmyn yn ei iaith. Paham nad allwn ni ei gael cystal ac ieithoedd eraill? A hithau fal i geilw Moses Williams yn iaith a ddyellir