Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/139

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyffredin trwy holl Gymru; ar oreu i gyfranu gwybodaeth a Duwioldeb rhwng y Gwerinos uniaith er tragwyddol les iw Heneidiau."

Wele ddarn o hanes rhodres yn ynfydu. Ei hen arfer. Ond er gwrthuned yr arfer, mae eto yn fyw,—

"Pan fyddo cyfaill yn anfon Llythyr at ei Gyfaill, è fydd yn Saes'neg, ac ni hwyrach a fedr un o'r ddau ddau deall gair ohonaw."

Eglwyswr selog a chlochydd oedd Dafydd Jones, a hyd y gwyddom ni siomwyd ef yn ei swyddau. Felly gellir cymeryd ei adroddiad o ffeithiau hanes ei amser heb eu hameu. Trueni hefyd ei fod yn teimlo mwy dros y Gymraeg a'r anfri deflid arni, na thros eneidiau a'r golled iddynt hwy o'r gamarfer,—

"A phan fyddir yn Scrifennu Cofrestr i'r Esgob-ty, am rai a fedyddir a briodir, ac gleddir, Ladin a fydd. Beth yw'r achos iddo fod felly? Fal i gallo'r Esgob wybod pa un a'i lleihau a'i cynnyddu i mae ei Esgobaeth ef. Ai ni fedr ef ddim Cymraeg? Na fedr air. Pa ddaioni a wna ef yn ei Esgobaeth pan ddel ef iddi? Conffirmio Plant, a phregethu. Mewn pa iaith? Saesonaeg a Ladin. Pwy sy'n i ddeall ef? Y Deon, a'r Ficeriaid ac ymbell wr bonheddig

***