Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/140

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Oblegid mae'n salw fod y Brython a fu gynt mor enwog a meddu'r holl ynys! Y rwan heb un Esgub o Gymro ganddo, o fewn ei 4 (Bangor, Llan Elwy, Ty Ddewi, Llan Daff) Esgobaeth, o bydd neb i'm gohebu, am fod mor eofn."

Nid oes dyddiad ar y llyfr, ond mae'r rhagymadrodd hwn wedi ei leoli a'i ddyddio Caer Lleon, Chwefror 7, 1766.

Mae rhan flaenaf y llyfr yn cynnwys 22 o hanesion, wedi eu cymeryd o lyfrau argraffedig gan mwyaf, ac mae'r hanesion. hyn oddeutu un ran o dair o'r llyfr. Dywed Ashton (Hanes Llen. Gymreig, t.d. 192), mai llyfr "o farddoniaeth ydyw, ar yr un dull a'r Blodeugerdd," yr hyn sydd gamgymeriad. Felly yr oedd yr ail argraffiad a ddaeth allan yn 1824; diau mai hwn yn unig a welodd Ashton, ac felly y syrthiodd i'r camgymeriad.

"Stori'r Cardiau," y gwelodd un o'r Germaniaid Cymreig gymaint tlysni ynddi, yw'r gyntaf. A pheth bynnag am dlos ei hiaith, mae'n grynhodeb rhyfedd o wybodaeth. Ynddo hefyd mae "Araith Gwgan," y gwelir cyfeiriad mor fynych ati yn yr amrywiol MSS. Mabinogi ddymunol ydyw, er yn amddifad o goethder iaith, a swyn meddwl yr hen Fabinogion.