Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/142

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lle'r oedd ei ddalenau;
Gyd ôll ar Llythyrenau;
Wedi tywyllu a llwydo,
Ynnghyd ai rhugl rwygo;
Ac i mae ar gyhoedd,
Hir faith o flynyddoedd;
Er pan i gwnaed gynta,
Y traethiad hwn yma;
At wyth ugein-mlwydd,
I mae genyf Siccrwydd;
Pan ydoedd y rhain,
Yn wragedd yn Llundain;
Minau sef Dewi,
A'i trwsiodd ef gwedi."

12. Cerdd, "Dirifau yn cynwys Gogwyddiad neu Tebygoliaeth o Ddarostyngiad Brydain Fawr, i'w canu ar fesur a elwir Diniweidrwydd &c. (David Jones Antiq a'i gwnaeth) 1767." "Traethodydd" t.d. 278; "Hanes Llen. Gymreig," t.d. 192.

Mae Ashton yn rhoddi i ni y feirniadaeth ganlynol,—

"Yr oedd hon yr olaf o dair o gerddi a argraphwyd yn nghyd yn yr Amwythig, dros un Evan Ellis, yr hwn a ddesgrifiai ei hun ar brydiau yn Evan Ellis 'o bob man,' a phryd arall gosodai ei hun allan fel yn byw yn Llanfihangel Glyn Myfyr. Prynwr a gwerthwr edau wlan, a rhawn, a cherddi oedd yr Evan Ellis hwn. Ac efe, yn gystal ag eraill o'i gydoeswyr, megis William Morgan, William Roberts, William Jones a Richard Hughes, a gludent ffrwyth