Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/143

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awen faledawl prydyddion o fath Dafydd Jones, at ddrysau y werin Gymreig."

Yr ydym wedi dyfynnu'r uchod er cael mantais i geisio symud ymaith gamflas camfarn Ashton. Pe datgan ei farn am Ddewi fel bardd a amcanai Ashton, tewi a son a wnaethem, er na phrofodd y meddai ef ei hun un ddirnadaeth am farddoniaeth. Datgan ei farn dan yr esgus o adrodd ffaith a wna, gan gyfrif Dafydd Jones ymhlith "prydyddion baledawl,' porthwr chwaeth isaf y werin, a chanwr pibau y tafarnau, a thrwy hyn wneuthur cam ag ef fel llenor, os nad darostwng ei gymeriad personol. Haeriad noeth, heb un prawf, ydyw. Os oedd felly, gofynwn eto, paham na roddodd ef restr o'r baledau. yn y rhestr rydd o'i weithiau? Yn ol rhestr Ashton ni chyhoeddodd un gerdd, heb son am falad, er 1742, os y cyhoeddodd un y pryd hwn. Os ar Dafydd Jones y dibynnai Evan Ellis am faledau, da oedd iddo ei fod yn "prynnu rhawn" a gwerthu "edeu wlan." Nid da rhoddi sen heb achos. Mae'r haneswyr yng Nghymru a uniawno wyrni ac a gywiro ffeithiau haneswyr yr oes o'r blaen, yn lle ein bod yn barhaus ail adrodd camfarnau a chamgymeriadau fel ffeithiau hanes?