Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/145

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llenyddol neu dduwinyddol. Yn ol cofnodiad Gwilym Lleyn, cyfieithiad o'r "Ail argraffiad yn Saesonaeg," pryd yn ol y wyneb-ddalen mai o'r " 14 Argraffiad" ei cyfieithiwyd. Ymddanghosodd gyntaf yn 1702, wedi ei gyflwyno gan yr awdwr i'r Frenhines Ann. Nid oedd dim nodedig yn hynny, gan nad oedd y nodded yn ddim ond enw, ac na fu'r frenhines mae'n debyg well na gwaeth o'r "Histori" hwn. Ffaith hynod, os gwir, oedd i'r llyfr gael ei argraffu 14eg o weithiau rhwng 1702 a 1776, heb un rheswm dros hynny, ond ei ofergoeledd, ei gyfeiriadau parhaus at straeon a greodd mynachod, gan eu galw yn hanes, a rhithio duwioldeb wrth eu credu. Dafydd Jones a ysgrifennodd y rhagymadrodd, a hynny yn llawer mwy trefnus ac mewn gwell iaith na rhai o'i flaenoriaid, gan gyflwyno'r llyfr i

"Aelodau y wir Eglwys, yr hon sydd yn milwrio yma ar y ddaear; y cyfryw ag sydd dda ganddynt son am yr Anwylyd, a hefyd wedi meddwi o'i Gariad ef fel y dywaid Solomon, Can. 2. 4. 5. 2."

Yr ydym eisoes wedi cyfeirio at natur cynnwys y llyfr. Cymysgfa o beth gwir a llawer o goelion yw'r "ymadroddion,"