Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/146

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anghywir yn eu cyfeiriadau a'u hamseryddiaeth ysgrythyrol. Yn ol William Smith, M.A., yr oedd y proffwyd Esay yn byw 500 mlynedd o flaen Jeremi. Awdurdodau pwysig yn ol y llyfr ar ddwyfoldeb person Iesu Grist oedd y deg Sybiliaid," pen oracl yr Aifft, a llu o eilunod pabaidd a phaganaidd ereill. Ac er ein syndod geilw'r cyhoeddydd y cyfryw yn ymadroddion y Tadau Sanctaidd." Cofier, yr oedd y cyhoeddwr yn hollol ddifrifol a gonest, oherwydd ysgrifenna,—

"Mi a hoffais y Llyfr yma pan welais ef gyntaf, oherwydd fod ynddo lawer o ymadroddion y Tadau Sanctaidd, ynghylch ein Iachawdwr, y rhai nid ydynt i'w cael yn yr Ysgrythyrau; ac etto sydd bur wirionedd.

Nid wyf fi o natur i chwanegu at yr Ysgrythyrau, Dat. 22. 18. Ond eto rwy'n gweled fod y Tadau Duwiol wedi adrodd llawer trwy Ysbrydoliaeth Nefol, o Wrthiau nodedig yn eu Llyfrau; y rhai nid ydynt i'w cael yn ein Iaith ni'r Brutaniaid."

Mae'r rhagymadrodd uchod wedi ei ddyddio—

"Medi 23 1776. Trefryw, Tan-yr-Yw.

Dafydd Jones, C.C."