Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/149

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

X. EI LYFRAU.

(Parhad).

"HANES Y FLINDERUS DYNGED a ddigwyddodd i un Wm. Williams Melinydd LlanIlechid; Yr hwn a gadd ei ddihenyddio gan un Morris Rowland: Yr hwn a dderbyniodd ei haeddedigol Wobr am ei Weithred echryslon: Duw a'n gwaredô Rhag Clywed na bod y fath beth yn ein Gwlad. Amen.

TREFRIW. 1778." Argraphwyd, Gan DAFYDD JONES (Traethodydd, Ion. 1874. (Caneuon Cymreig 1767—1870 Amgueddfa Brydeinig).

Wele engraifft o'r gerdd yn yr hen amser yn gwasanaethu swydd newyddiadur ein hamser ni. Mae'r uchod yn wyth tudalen, dwy yn adrodd yr hanes mewn rhyddiaith, a'r gerdd, fath ag ydoedd, yn ymestyn dros chwech. "John Roberts prentis William Roberts y Gof, Ystorws Gwig Aber a'i canodd." Eiddigedd oedd achos y gyflafan; y Morris Rowlands hwn a saethodd William Williams er cael ei gariad, ac a dderbyniodd ei "haeddglod