Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/150

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wobr" medd y gerdd, trwy gael ei roddi "wrth sibede" ar y "Dalar Hir."

18. "Cerdd, ynghylch Gwraig ai Mab ai Merch ai Hwyres: mewn digwyddiad rhyfeddol, anarferol di gyffredin! Ar Dôn fechan. Gan Dewi Fardd 1778 (D. Jones Trefriw)."

(Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 192).

Ashton yw'n hunig awdurdod dros yr uchod. A dywed ef fod yn gysylltiedig a hi gerdd arall o waith Elis y Cowper;' ac mai dyma'r gyntaf o'i waith ei hun iddo gyhoeddi.

19. "Dwy o GERDDI NEWYDDION. i. Yn gosod allan yr helynt drafferthus sydd o achos yr arian Cochion hyd Gymru.

ii. Yn dangos mor llesol ydyw perffaith gariad rhwng Cristionogion ai gilydd, ar perygl a fydd i ni fyw heb gariad an gilydd gan grybwyll am y Barnedigaethau a roddes Duw ar ddynion di gariad.

Trefriw, Argraphwyd, gan Dafydd Jones, tros Harri Owen 1779."

(Traethodydd, Ion. 1874, 19).

Yr enw wrth y gyntaf yw "E. Roberts." Ai Elis y Cowper oedd; nis gwyddom. A'r ail O. Roberts, joiner, a'i cant."