Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/154

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eraill a wnaeth yr Iesu yngwydd ei Ddisgyblion, y rhai nid ydynt Sgrifenedig yn y Llyfr hwn. Ioan xx. 30. Wedi eu cysylltu gan DEWI FARDD. Ni fynnwn I er dim yn y byd, chwanegu anwiredd at yr Sgrythyrau. Date. xxii. 18, 19.

TREFRIW. Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1780 tros Grace Roberts. (8 t.d.).

(Traethodydd, Ion. 1874, 9).

26. "Dwy o GERDDI NEWYDDION. 1. Wedi ei Chymeryd allan o Eiriau Crist, sydd yn drydydd Bennod ar ddeg o Sainct Marc. 11. hanes y blindere a fu yn Mon ac Arfon yn amser y bu Captain TRODU yn Pressio gyda'i Army drygionus.

TREFRIW. Argraphwyd gan DAFYDD JONES, 1780."

27. "Y pedwerydd Llythyr," &c. Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones,

(Llyfr. y Cymry, 1, 1780).

Ail argraffiad o Rhif 21 yw'r uchod, lle'n barod y rhoddwyd y wyneb ddalen yn llawn.

Rhaid fod y llythyrau Esgobaidd hyn i raddau yn boblogaidd, pan y daeth y fath nifer o honynt allan, a rhai trwy fwy nac un argraffiad.

28. "Difrifol fyfyrdod am farwolaeth, sef y Pummed Llythyr Ystyriol am Wellhad Buchedd y Daearol Bererindod; cyn dyfod Cennad