Pechod i'n cyrchu i'r Byd Anweledig o Olwg cnawdol. A fyfyriwyd gan Ellis Roberts, Prydydd o Llanddoged.
Trefriw Argraphwyd tros Harri Owen 1780.""
Un o lythyrau yr hen Gylchwr o Landdoged eto. A rhaid fod rhyw rinwedd neillduol yn hwn rhagor un o'r epistolau, canys yr oedd yn ei drydydd argraffiad cyn diwedd 1781, os yw cofnodiad Gwilym Lleyn yn gywir.
29. "History o Rybydd i Bechaduriaid i Edifarhau, neu ddisgrifiad rhyfeddol fel y cafwyd dau henuriad ynghoed Ressington, yn agos i Doncaster, yn Sir Gaer Efrog. O gyfieithiad Thomas Morris o'r Ysbytty. Trefriw."
(Llyfr. y Cymry, 1, 1781).
30. Dwy o Gerddi Newyddion, &c. Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1781.
Gwaith Ellis y Cowper ydynt."
(Llyfr. y Cymry, 24, 1781).
31. "DWY GERDD NEWYDD.
Yn gyntaf, ystyriaeth ddifrifol ar y mawrion drugareddau a drefnodd yr Arglwydd, tuag at gynnal Dynolryw.
Yn ail,
Rhyfeddol Gariad ein Harglwydd Bendigedig yn marw o'i wirfodd er mwyn cael ein gwar-