Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/159

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

41. "Dwy o Gerddi Newyddion
Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783."
(Llyfr. y Cymry, 22, 1783).

42. "Tair o Gerddi Newyddion.

1. Yn gosod yn fyrr Rhyfedddod Angylion, happusrwydd dynion, a blinder cythreiliaid, sef Iechydwriaeth drwy Grist a'r esgeulusdra o weddio am ran yn Mhren y Bywyd.

John Roberts a'i cant.

2. Yn mynegi fel y digwyddodd i Wr Ifangc, ac yn gweddio am edifeirwch am ei bechod.

3. Fel y bu i Wr Ifangc garu merch ac fo ffaeliodd ei chael yn briod; ar yr achos hwnnw fe a ganodd fel y mae'n canlyn.

John Williams o Lanbedrog yn Lleyn a'i cant. Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783."
(Caneuon Cymreig 1767—1870 Amguddefa Brydeinig).

Rhyw 12 o benhillion yw'r tair cân ynghyd. Er holl siom John Williams o Lanbedrog, pedwar pennill yn unig ganodd—canodd ei ofid ymaith yn rhwydd a didrafferth. Ceiniogwerth o farddoniaeth oedd y tair cerdd hyn, a cheiniogwerth nodedig o salw.

43. "Dwy o Gerddi Newyddion.

1. O Hanes dychryn ofnadwy a fu yn yr Italia modd y darfu i Dduw Singcio Tri Chant