Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/162

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XI. BWRIADAU LLENYDDOL.

Cyhoeddodd Dewi Fardd lawer o lyfrau, ond bwriadodd gyhoeddi llawer mwy. Gwelodd ef, fel llawer gweithiwr arall, lu o obeithion dymunol yn machlud hwnt mynyddoedd yr amhosibl, gan ei adael yn brudd yng nghwmni siomiant. Yr oedd awydd cyhoeddi yn ysfa gref yn ei galon, a chan fod yn ei feddiant gymaint o ddefnyddiau mewn barddoniaeth a rhyddiaith, naturiol oedd iddo freuddwydio llawer o orchestion eraill. Aflwyddiant a'i llesteiriodd i ddwyn llawer o'i amcanion i ben. A pha angen dyweyd i aflwyddiant ferthyru tyrfaoedd o fwriadau da, yn neilltuol o fwriadau llenyddol ? Nid yn unig hyn fu hanes llawer o lenorion gwasgedig eu hamgylch—iadau a chyffredin eu dawn, ond bu hefyd yn anffawd bywyd gwyr o fri. A hyn fu hanes rhai yn ei oes ef. Bwriadodd Lewis Morris fwriadau teg, llafuriodd bron trwy ei oes ar ei "Celtic Remains," ond gadawodd ef heb ei gyhoeddi. Bu Ieuan Brydydd Hir mewn caledi a newyn yn ad