Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/163

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

-ysgrifennu, ond aeth toraeth ei waith i ofal Paul Panton, a buont bron waeth na cholledig am agos ganrif.

Mewn nodiadau ar waelod dail ei lyfrau, fel blodau min y ffordd, y ceir llawer o'i fwriadau llenyddol yn dod i'r amlwg. Yn yr "Eglurun Rhyfedd," 1750, t.d. 7, ceir y nodiad canlynol,—

"N.B.—Fe fyddai da genyf gael y Drych Gristionogawl, 1585, &c., yn gyflawn; i Werth neu i Fenthyg. Yr hwn wyf Dafydd Jones."

Drachefn, t.d. 9,—

"N.B.—Rwi'n ymofyn am 2 Lyfr. Crynodeb o Addysc Cristionogawl, &c., 1609. A Theater du Mond, Sef yw Gorsedd y Byd, 1615, o gyfieithiad Rosier Smyth, D.D., o Lan Elwy. Fe fydde da gennyf gael y Llyfrau yma i Werth neu i Fenthyg. Eich gwas'naethydd wyf,

DAFYDD JONES."

Mae llawer o ddyddordeb yn llechu rhwng llinellau'r hysbysiadau hyn i'r hwn fedd lygad i'w ganfod. Dywed Gwilym Lleyn mai yn 1584 y cyhoeddwyd y Drych Cristionogawl," heb enw awdwr, na nodiad o'r man ei hargraffwyd (Llyfr. Cymry, t.d. 29). Yn un o'i erthyglau yn y Manchester Guardian, rhydd Ernest