Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/164

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhys fanylion llawnach—iddo gael ei gyhoeddi yn Rouen yn 1585, ac mai ei awdwr oedd y Dr. Gruffydd Roberts. Felly mae dyddiad Dafydd Jones yn hollol gywir.

Cyhoeddwyd y ddau lyfr arall a nodir, sef y Crynodeb" a "Gorsedd y Byd," yr amser a nodir gan Ddafydd Jones, sef y naill yn 1609 a'r llall yn 1615. Ym Mharis eu hargraffwyd. Pabydd selog ydoedd Rosier Smyth, a than nawdd ei Eglwys y cyhoeddwyd ei lyfrau. Hyn yn ddiau ydoedd y prif reswm paham eu cyhoeddwyd hwythau, fel yr eiddo'r Dr. Gruffydd Roberts, ym Mharis; a phaham hefyd na cheir ynddynt y llythyren w, ond ei lle a gymerir gan y ddwy vv, nes peri'r iaith ymddangos yn ddieithr. Ar wahan i hyn, mae eu Cymraeg yn dda a neilltuol ddealladwy.

Ar ddalen olaf yr "Eglurun Rhyfedd" ceir hysbysiad am ddau lyfr oedd yn barod i'r wasg. Wele'r hysbysiad am danynt,—

"Gwybyddwch fod gennyf ddau Lyfr yn barod i'r Argraphwasg; y cyntaf a elwir PERL MEWN ADFYD, am 6d. ac am 8d. dan ei gauad, y neb afo am 12 Efe a gaiff 13 yn y dwsin. Ar llyfr