Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/165

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arall a Elwir Drych y Cymro, yn cynwys yr un faint o Sittiau a'r un rhyw bris a'r llall, fe a dderbynir Henwau Subscribers gan y sawl a wertho y llyfr hwn; oddi wrth yr hwn y bydd eich ufudd was'naethwr yn cael eu henwau yr hwn wyf, Dafydd Jones o Drefriw."

A gafodd "henwau Subscribers," nis gwn. Mae'n debyg na chafodd, oblegid ni ddaeth y llyfrau allan er daed yr hysbysiad am danynt.

Cawn ef drachefn, yn ei ragymadrodd i'r Blodeugerdd, t.d. 8, pan yn bwrw golwg dros y mil cywyddau a cherddi ysgrifenedig oedd yn ei feddiant, yn addaw dwy Flodeugerdd arall o faint a phris Blodeugerdd 1759, sef

"1. Blodeu-Gerdd Duwiol
"2. Blodeu-Gerdd Diddanol."

Ond cafodd gymaint colled arianol ac anhawsderau eraill ynglŷn â'r anturiaeth oedd ganddo mewn llaw, fel na ddaeth yr addawedig obeithion byth i ben.

Yn ei Ddiferion Gwybodaeth (1764) ceir un arall o'r awgrymiadau hyn. Ar ddiwedd y llyfr mae "Diwedd y Rhan gyntaf." Felly, rhaid y bwriadai ail, a