Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/168

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dangos ei fod ar y pryd mewn cariad a dullwedd yr amcanodd Ieuan Brydydd Hir ei dwyn i arfer a bri, sef yr "I mae." O bosibl hefyd nad ei amcan ef ei hun yn hollol oedd yr uchod. Yn yr Additional MSS. 15031 ceir copi o "Gynygion" fel eu gelwir, sef hysbysiad am Ramadeg Cymraeg, yr hyn a geir o dan y Cynygion hynny yw,—

"Ysgol-rad Llanrwst John Lewis

Medi 19 1781 Curad Trefriw."

Er nad oes enw Dafydd Jones wrth y daflen hon o hysbysiad, yn Nhrefriw ei hargraffwyd, mae'r llythyren yn tystio hynny. Mae'n debyg mai'r un Gramadeg yw hwn ac a nodir gan Dafydd Jones yn 1779. Er cariad Dafydd Jones a John Lewis ato, methais gael un prawf iddo erioed ymddangos.