Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/169

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XII. FEL CASGLWR HEN YSGRIF-LYFRAU.

Hon oedd prif nodwedd ei fywyd. Pa ymdrech bynnag wnaeth mewn cyhoeddi llyfrau, y wedd y cododd uchaf i ddosbarth llenorion goreu ei amser ydoedd yn ei awydd cryf i gasglu hen ysgrif-lyfrau a'u copio. Yn hyn yr oedd o'r un natur a'r Morrisiaid, a gall mai hon oedd y ddolen gydiol rhyngddynt. Cafodd gydymaith o'r un anianawd yn Ieuan Brydydd Hir. Am y ddau, Ieuan Brydydd Hir, curad Trefriw, a Dafydd Jones ei glochydd, yr ysgrifennodd Lewis Morris,—

"He is curate of Trefriw near Llan Rwst. to Mr. Jones of Cae'r Melwr. David Jones the Editor of the Songs is his clochydd. You shall see him soon, a hundred to one but they will drive one another mad."[1]

Cadwodd y ddau eu pwyll, ond methodd y Prydydd Hir a chadw ei fywyd; yr oedd ei bwyll yn gryfach na'i iechyd. Mae traddodiad yn aros yn Nhrefriw y cerdd-

  1. Llythyr at Ed. Richards, Medi 20, 1759.