Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/170

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ai'r wlad o ben i ben os clywai son am "lyfr newydd." Prin mae'r newydd yn gywir mai'r gwir ystyr yw yr elai o un pen i'r pen arall i'r wlad os clywai son am hen lyfr, yn neilltuol hen ysgriflyfr. Gadawodd ar ei ol gasgliad rhagorol o lyfrau argraffedig ac o ysgriflyfrau, ond gwasgarwyd hwy fel pethau o fawr werth. Er fod Ismael Dafydd yn argraffydd, ni feddai fawr o dueddiadau llenyddol ei dad, ac yn ystod ei fywyd "llonydd ef" eu gwasgarwyd, fel erbyn heddyw maent dros wyneb yr holl wlad, i'w cael odid ym mhob casgliad o lawysgrifau, a rhai mewn lleoedd nas disgwylid eu cael yno.

Ceir hanes ymhlith rhan o'r teulu, i wr eglwysig o sir Fon fod ym Mhenisa'r Dre am fis o amser yn chwilio i fewn i gistiau llawn o lyfrau o bob natur; iddo brynu allan o honynt yr hyn oedd werthfawr yn ei olwg. Un o'r enw Mr. Griffiths oedd efe. Credaf fod cnewyllyn y traddodiad yn wir, sef i wr eglwysig o'r enw Griffiths fod yn eu chwilio a chymeryd ei wala o honynt. Trigai, nid yn sir Fon, ond o fewn ychydig filltiroedd i'r fan—i Drefriw. Ni welais un argoel ddarfod i gymaint ag un o'i ysgriflyfrau dramwyo