Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/171

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drwy Fon. Ond aeth llu o honynt, fel y danghoswn ymhellach, trwy fan neilltuol yn Nyffryn Conwy. Y Mr. Griffiths hwn, heb os, oedd y Parch. Hugh Davies Griffiths, Caerhun, boneddwr a gŵr eglwysig, ac yr oedd ei blas a'i eglwys o fewn llai na chwe milltir i Drefriw. Pa fodd yr oeddent heb ei adnabod ac iddynt dybied ei fod o Fon sydd anhawdd ei esbonio. Hyn sydd ffaith, aeth llawer o lyfrau Dafydd Jones i feddiant y Parch. H. Davies Griffiths. Casglodd y gŵr hwn, neu cafodd o gasgliad Dafydd Jones, nifer o MSS., a galwodd hwy yn Caerhun MSS. Mae llawer o honynt yn bresennol ymhlith yr Additional MSS. yn yr Amgueddfa Brydeinig; eraill, mae lle i ofni, wedi colli. Ein pwnc ni yw dangos cysylltiad y rhai hyn â Dafydd Jones. Wele lythyr o eiddo'r Parch. H. Davies Griffiths sydd yn tynnu'r llen i raddau ar y llwybrau y llithrodd yr MSS. ar hydddynt,—

"Dear Sir,—Constant succession of domestic calamities, which since I had the pleasure of seeing you in London, has at different intervals deprived me of the greater part of my blooming little family by severe and sudden maladies, has prevented me from paying earlier attention to the patriotic cause in which you are