Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/174

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aeth yr eiddynt hwy, eu casgliad rhyfeddol, i feddiant llywodraethwyr y Welsh School, Llundain, ac oddiyno oddeutu 1836, i'r Amgueddfa Brydeinig, ond wedi lleihau yn ddirfawr yn eu nifer. Nodir y rhai a ddaeth o Gaerhun, o leiaf lawer o honynt, a'r drefn "Caerhun No. 1," a "Caerhun No. 2," ac ymlaen hyd 29. Methais weled ond 15 o'r nifer hwn, sef 1—11, 16, 27—8—9. Yn Additional MSS. 15062 ceir cynhwysiad y Caerhun MSS.; yno ceir yn ychwanegol gynhwysiad No. 14, 15, 17, 18, a 19. Felly yr oedd No. 12, 13, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26 yng ngholl y pryd hwnnw, o leiaf ni welwyd hwy gan yr hwn gopiodd gynnwys y lleill.

Heb os y poor neighbour of mine " yn y llythyr uchod oedd Ismael Dafydd, mab Dafydd Jones. Gellir darllen peth rhwng llinellau'r llythyr. Pa fodd bynnag, yn y wedd hon fe ddiogelwyd llenyddiaeth, os nad yng ngholl, fuasai'n nodedig o wasgaredig erbyn hyn. Wrth droi dail y cyfrolau hyn ceir prawfion pendant i lawer o honynt fod ym meddiant Dafydd Jones, a'r casgliad naturiol a chywir hefyd yw mai ei eiddo ef unwaith oedd y Caerhun MSS. a llawer ychwaneg. Yn