crefyddol oedd yn nodweddiadol o'r amseroedd blaenorol o waith Dafydd Jones. Wele ychydig o honynt,—
"Mae ar fy nghalon hiraeth creulon,
Am gael mynd i'r nefoedd dirion;
A chael aros yn dragywydd,
Gyda'm bendigedig Arglwydd.
—D. F." tud. 18.
Nychdod beunod sy'n poeni,—yn gwbl
A gwybod tylodi
Mae henaint im dihoeni
Och Dduw mor flin yw trin tri."
—Tud. 18.
"Duw gwared fenaid gwrion
Oddi wrth bob rhyw beryglon
Dod i mi le fy Arglwydd Dad
Yng ngoleu gwlad angylion."
—Tud. 121.
Ar tud. 47 ceir y nodiad canlynol,—
"Mis Hydref 7 1767 y bu y llifeiriant mwyaf a welwyd yn yr oes bresenol, nag yn amser neb sy'n cofio, yr hwn a fwriodd i lawr lawer o bontydd a thai hefyd a lygrodd lawer o diroedd."
Ar tud. 151,—
"Gwelais freuddwyd fod gwr yn dweud fod arian iw cael mewn lle a elwir Cwm Moel Mwg neu Moelwg Mawrth 29 1769. D. Fardd."
Cymaint swyn i'r hen oes ddiddan oedd eu breuddwydion cwsg ac effro am arian