Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/181

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XII. Additional MSS. p. mark 14985, Small quarto, "Caerhun No. 8."

XIII. Additional MSS. p. mark 14986, small quarto, 117 tud., Caerhun No. 9."

XIV. Additional MSS. p. mark 14987, small quarto, 55 tud. Gweithiau'r hen feirdd wedi eu hysgrifennu gan amryw rhwng 1670 a 1680 yw'r gyfrol hon. Mae'r englyn canlynol wedi ei ysgrifennu yn ddiweddarach,—

"Y pen ni bytho mewn pall,—mae'n dostur
Nid ystur wrth arall,
Ni wyr y dyn a fo diwall,
Yn llwyr mo angen y llall."


Ar y wyneb ddalen ceir enw "Richd. John Dafydd Pentre'rfoelas" yn llaw ysgrifen Dafydd Jones. Yr oedd y "Richd. John Dafydd" hwn yn un o werthwr llyfrau Dafydd Jones, ac yn un o'r gwyr a brofai iddo ei draddodiadau ofergoelus.

XV. Additional MSS. press mark 14989, Small quarto, 222 tud. Wedi ei hysgrifennu oddeutu diwedd y XVI. ganrif, yn cynnwys gweithiau Bedo Brwynllys, Bedo Havesb, Dafydd ap Ieuan Llwyd, Dafydd Nanmor, Deio ap Ieuan a Guto'r Glyn. Mae yma lawer o weithiau