Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/182

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dafydd Jones ar ymylon y dail, weithiau wedi eu harwyddo ganddo, caniadau o duedd grefyddol fel y rhai a geir yn rhif 2. Rhoddwn ychydig o honynt,—

"Wele'r dydd ac wele'r awr,
Cyn iddo ddirfawr ddarfod,
Mae ceisio gofyn gan Dduw hedd,
Am bob rhyw gamwedd gymod."

—Tud. 31.

"Dy fawr drugaredd fy Nuw hael
Gad im ei chael, 'rwy'n gwylio,
Dyrchafa fy ysbryd i'r Nef wen,
Mae Crist fy mhen i yno."

—Tud. 44.

Trugaredd fy Arglwydd dod i mi,
'Rwy'n gwaeddi am dani yn dyner,
Dwg di fy enaid am corph gwan,
I fyny dan dy faner."

"Nid oes hir Einioes i'r un—ond benthyg
Mo bymtheg munydyn
Darfod i mae ar Derfyn
Hydol dir yw hoedl Dyn."


—D. FARDD, 1772.

XVI. Additional MSS. p. mark 14997, duodecimo, 230 tud., "Caerhun No. 10." Wedi ei ysgrifennu oddeutu diwedd y XV. ganrif. Casgliad o weithiau'r hen feirdd.