Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/183

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XVII. Additional MSS. press mark 14998, duodecimo, 166 tud., "Caerhun No. 11." Hen feirdd eto, yn ddrylliog ac anghyflawn. Nid rhyfedd i'r Parch. H. Davies Griffiths gwyno am gyflwr rhai o'i ysgriflyfrau.

XVIII. Additional MSS. p. mark 15038, small quarto, 310 tud., Caerhun No. 27. Ymhlith llawer ereill mae yn hon yr eiddo Lewis Morgannwg, Tudur Aled, Dafydd ap Gwilym, Dafydd Matthew, Sion Brwynog, a Sion Kent. Ar y ddalen olaf ceir "Dafydd ap Sion a biau hwn 1768," yn llawysgrifen Dafydd Jones. Un arall o ffurfiau ei enw oedd Dafydd ap Sion a cheir ef wedi ei gwtogi yn Dab Sion fwy nag unwaith. Ysgrifennwyd y llyfr hwn yn 1575.

XIX. Additional MSS. press mark 15039, small quarto, 204 tud., "Caerhun 28." Llyfr wedi ei ysgrifennu yn salw, yn cynnwys barddoniaeth amryw feirdd yn y 17eg a'r 18fed ganrif.

XX. Additional MSS. press mark 15040, small quarto, 200 tud., "Caerhun 29." Copi tebyg i rhif 28.

XXI. Additional MSS. p. mark 15046, duodecimo, 342 tud. Ar wyneb ddalen